Cyngor Sir Powys
Cymorth Arianno
Mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu cynlluniau ariannu i gefnogi busnesau a sefydliadau cymunedol sy’n buddsoddi yn y sir.
Mae'r cynlluniau cyfalaf hyn yn cael eu rheoli gan Wasanaeth Adfywio'r Cyngor.
Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
Trawsnewid Trefi
Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion, a Llywodraeth Cymru, a'r nod yw ailddychmygu ac ail-greu adeiladau a mannau agored i greu canol trefi cryf sy'n ffynnu.
Mae'r Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer busnesau lleol, mentrau cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus i alluogi rhaglen gefnogaeth eang a hyblyg ar gyfer ystod eang o brosiectau a all helpu i adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru.
Cysylltau yn yr ardal leol:
Ebost: Regeneration@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827656
Benthyciadau Adnewyddu a Gwella Eiddo
Ydy’ch eiddo mewn cyflwr gwael? A oes angen gwaith adeiladu arno er mwyn iddo gael ei ailfeddiannu neu’i werthu? Os felly, mae Cyngor Sir Powys wedi casglu nifer o becynnau ariannol cystadleuol a allai fod o ddiddordeb i chi.
Hyd at £25,000 yr uned
• Trwy FenthyciadDi-log
• OpsiynauAd-dalu’nGynnar arGael
• Pecynnau Penodol ar gyfer Landlord/EiddoGwag
• Ar gael ar gyfer Pob Gwaith iWellaCartref
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma
Benthyciad Landlord
TROI TAI’N GARTREFI
Ebost: privatesectorhousing@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827464
Benthyciadau i wella cartrefi
Hyd at £5,000 – Ad-dalu dros 5 mlynedd - Diddordeb Am ddim - Perchnogion Preswyl yn Unig
Gall y cynllun yma sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru roi benthyg hyd at £5,000 i berchnogion preswyl sy’n gymwys i dalu am unrhyw waith sy’n effeithio ar Ddiogelwch, Cynhesrwydd neu Sicrwydd eu cartref, gan ddibynnu ar brofion fforddiadwyedd. Rhaid ad-dalu’r cymorth dros 5 mlynedd.
Ffôn: 01686 626234
Gwefan: https://rocbf.co.uk/