Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
Cyfamod Y Lluoedd Arfog
Cyfamod Cymunedol Powys
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn amlinellu’r cysylltiad rhwng y genedl, y wlad a’r Lluoedd Arfog. Mae’n cydnabod fod dyletswydd foesol ar y genedl gyfan tuag aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, ac mae’n olrhain sut y dylid eu trin.
Mae’n bodoli er mwyn delio gyda’r anfanteision sy’n wynebu Cymunedau’r Lluoedd Arfog o’u cymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod yr aberth a wneir ganddynt. Ar lefel leol, mae ‘Cyfamod Cymunedol’ yn cael ei llofnodi ar draws y wlad, yn uno cymunedau milwrol a sifil. Cliciwch yma ar gyfer mwy o newyddion ar y Cyfamod cenedlaethol.
Mae Cyfamod Cymunedol, yn cyflenwi cyfamod y Lluoedd Arfog ar lefel leol, gyda’r olaf o’r rhain yn amlinellu dyletswydd foesol rhwng y genedl, y llywodraeth a’r Lluoedd Arfog. Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi’r gwasanaethau sydd yma ym Mhowys, a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r problemau sy’n effeithio ar gymunedau’r Lluoedd Arfog.
Mae nodau Cyfamod y Lluoedd Arfog fel a ganlyn:
-
Annog cymunedau lleol i gefnogi Cymunedau’r Lluoedd Arfog o fewn eu hardaloedd, meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r problemau sy’n wynebu Cymunedau’r Lluoedd Arfog.
-
Cydnabod a chofio’r aberth sy’n wynebu Cymunedau’r Lluoedd Arfog
-
Annog gweithgareddau sy’n helpu Cymunedau’r Lluoedd Arfog i integreiddio i fywyd lleol
-
Annog Cymunedau’r Lluoedd Arfog i helpu a chefnogi’r gymuned ehangach, boed hynny trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu drwy ddulliau eraill o ymgysylltu.
CYNLLUN GRANTIAU CYMUNEDOL CYFAMOD Y LLUOEDD ARFOG
Sefydlwyd y Cynllun Grantiau Cymunedol i gyllido prosiectau lleol sy’n cryfhau’r cysylltiadau neu’r ddealltwriaeth rhwng aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach lle maent yn byw.
Gellir addo cefnogaeth nawr
Os hoffech addo cefnogaeth i Gyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Powys, cofiwch adael inni wybod.
Llenwch y ffurflen ar y Dudalen Gyswllt, gan roi eich enw, cyfeiriad, eich sefydliad a’r hyn fyddwch yn ei wneud i gefnogi’r fenter. Bydd angen eich manylion cyswllt er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ar yr hyn sydd ar y gweill gennym, ac i weld sut mae’ch addewid yn mynd. Byddwn yn ychwanegu eich addewid at ein Llyfr cefnogaeth ar gyfer y Cyfamod, a byddwn hefyd yn diweddaru’r rhestr ar y wefan i ddangos pwy sydd wedi addo cefnogaeth hyd yma.
Cofiwch ddweud wrthym am yr hyn rydych yn ei wneud neu eich cynlluniau, i gefnogi’r Cyfamod Cymunedol:
Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Powys
Mae Andy Jones, ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Powys yn hapus i gynnig cymorth i’n cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys Milwyr, Milwyr wrth Gefn, cynfilwyr a’u teuluoedd.
Andy Jones (Curly)
E-bost: andy.jones@powys.gov.uk
01874 625125
07950 991899 (yn dibynnu ar y signal)
Dilynwch ni yma @CovenantWales ar Twitter
(Cliciwch i agor)
Sut I Wneud Cais
Mae'r Gronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn awr yn cael ei weinyddu yn uniongyrchol oddi wrth y M.O.D. Mae pob cais yn awr ar-lein. Os gwelwch yn dda ewch i Gronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog neu Sut i wneud cais a dilyn y ddolen isod:
https://www.gov.uk/government/publications/covenant-fund-guidance-on-how-to-apply